Amdanon ni

Yr Ensemble

Ensemble cerddoriaeth newydd Cymru yw UPROAR. Gan lansio yn 2018, bydd ei berfformwyr rhagorol o dan arweiniad Michael Rafferty yn dod â’r gerddoriaeth glasurol ryngwladol orau a gyfansoddir heddiw i Gymru a’r DU. Gan gydweithio’n agos â chyfansoddwyr a chomisiynu gwaith newydd yn arbennig, mae’r ensemble hyblyg yma’n dod â phrofiad helaeth o berfformio gyda’i gilydd fel unawdwyr a cherddorion siambr. Bydd yr ensemble yn ailddyfeisio’r ffordd y cyflwynir cyngherddau i gynulleidfaoedd sy’n hoffi’r gweledol, gan berfformio’n aml mewn lleoliadau ysbrydoledig ac anarferol. Bydd ei gydweithrediadau amlgyfrwng â’r ddawns, theatr, ffilm, celfyddydau gweledol, fideo ac electroneg fyw yn gwthio ffiniau’r ffurfiau hyn, gan gynnig profiadau bythgofiadwy. Bydd UPROAR yn meithrin cenedlaethau newydd o gyfansoddwyr sy’n gweithio yng Nghymru, gan ddarparu cyfleoedd perfformio a datblygu i gyfansoddwyr yn ystod pob cam o’u gyrfaoedd.

Michael Rafferty - Cyfarwyddwr Artistig

Arweinydd arobryn sy’n byw yng Nghymru yw Michael Rafferty. Yn frwd iawn dros ddiwylliant cyfoes, mae’n arwain ensembles cerddoriaeth gyfoes gorau’r byd ac mae wedi cydweithredu â thros 100 o gyfansoddwyr sy’n byw heddiw. Roedd yn un o gydsefydlwyr Theatr Gerdd Cymru a thrwy ei arweinyddiaeth gerddorol weledigaethol dros 25 mlynedd, daeth â Theatr Gerdd Cymru i’w hamlygrwydd presennol. Derbyniodd MBE yn 2016 am ei wasanaethau i gerddoriaeth yng Nghymru.

Y Bwrdd

Cathy Boyce
Prof. Michael Ellison
Sally Groves MBE
Prof. Michael Peake OBE
Jackie Yip
Rhif Elusen : 1174587
Share by: