Keychange

Mae UPROAR yn falch o fod wedi ymrwymo i addewid Keychange 50:50 erbyn 2022 y PRS.

Mae cyfartaledd rhywedd yn ganolog i ethos UPROAR ers y cychwyn cyntaf yn 2017. Rydym yn comisiynu ac yn perfformio gweithiau gan niferoedd hafal o fenywod a dynion ac rydym yn anelu at gydbwysedd rhywedd yn ein hensemble perfformio a’n Bwrdd Ymddiriedolwyr. Pleser o’r mwyaf i ni yw bod yn rhan o fenter Keychange y PRS sydd eisoes yn cael effaith fawr wrth gau’r bwlch rhywedd yn y diwydiant cerdd.

Ynglŷn â Keychange

Menter ryngwladol arloesol yw Keychange sy’n trawsnewid dyfodol cerddoriaeth wrth annog gwyliau a sefydliadau cerdd i sicrhau cydbwysedd rhywedd 50:50 erbyn 2022. Bob blwyddyn bydd 74 o artistiaid ac arloeswyr ar draws Ewrop a Chanada yn cymryd rhan mewn gwyliau rhyngwladol, digwyddiadau arddangos, cydweithrediadau a rhaglen o labordai creadigol. Nod Keychange yw cyflymu newid a chreu diwydiant cerdd sy’n well ac yn fwy cynhwysol i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Arweinir Keychange gan Ŵyl Reeperbahn, Sefydliad y PRS a Musikcentrum Öst, gyda chefnogaeth gan raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd, mewn partneriaeth â Wythnos Gerdd Tallinn, Iceland Airwaves, BIME, Oslo World, Linecheck/Music Innovation Hub, Wythnos Gerdd Iwerddon, SACEM, Liverpool Sound City, Way Out West, Spring Break, MAMA, Mutek a Breakout West.
Share by: