Yr Amgylchedd

Yr Amgylchedd

Yn UPROAR, rydym yn credu y dylai arferion amgylcheddol da fod ar ganol pob sefydliad celfyddydol. Felly, rydym yn sicrhau y gwneir pob ymdrech i lei hau unrhyw effeithiau andwyol y gallai ein gweithgareddau, prosesau a gwasanaethau eu cael ar yr amgylchedd ac yn ymrwymedig i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r amgylchedd drwy ymgymryd â’n holl weithgareddau mewn ffordd amgylcheddol gyfrifol.
I helpu i gyrchu’r nod yma, rydym wedi gweithredu system reoli amgylcheddol i fonitro ein heffeithiau’n llwyddiannus a gwella ein perfformiad amgylcheddol yn barhaus.

Mae ein heffeithiau amgylcheddol pennaf wedi’u hadnabod fel defnydd ynni a chludiant a defnyddio papur fel rhan o’n gweithgareddau gweinyddol. Mewn ymgais i reoli’r effeithiau amgylcheddol hyn a lleihau effaith gyffredinol y cwmni ar yr amgylchedd, mae UPROAR wedi ymrwymo i:


• Sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ddeddfwriaeth a rheoliadau perthnasol sy’n gysylltiedig â’n gweithgareddau, gan gynnwys ymrwymiadau gwirfoddol
• Diogelu’r amgylchedd rhag unrhyw effeithiau andwyol a all gael eu hachosi gan ein gweithgareddau, gan gynnwys atal llygredd
• Cynyddu ymwybyddiaeth y cyflenwyr a’r cerddorion llawrydd sy’n cydweithio â ni o arferion amgylcheddol da 
• Lleihau effaith nwyon tŷ gwydr drwy adolygu ein harferion cludiant ac edrych ar ddulliau cludiant eraill
• Edrych ar ffyrdd o asesu a hybu gwelliannau o ran ein perfformiad amgylcheddol ym mhob agwedd ar y sefydliad drwyddi draw
• Sicrhau ardystiad Lefel 2 y Ddraig Werdd ar gyfer ein system reoli amgylcheddol
• Lleihau ein defnydd ynni lle bynnag bo’n bosibl
• Gweithredu egwyddorion gwella parhaus o ran ein perfformiad amgylcheddol ym mhob agwedd ar ein system reoli amgylcheddol a gweithgareddau’r sefydliad drwyddi draw.

Bydd y polisi amgylcheddol hwn yn cael ei gyfleu i’r holl staff a cherddorion llawrydd sy’n gweithio gyda ni a bydd ar gael i’r cyhoedd.

Adolygir y polisi yn flynyddol a’i ddiwygio pryd bynnag bo angen. 

Cwmni achrededig yw UPROAR ar Lefel 2 Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd.

Share by: