Ar ôl torri ein hail brosiect yn fyr yn 2020, rydyn ni bellach wedi ad-drefnu rhai o’r perfformiadau a gafodd eu gohirio.
Professor Bad Trip
Mae UPROAR yn dychwelyd gyda rhaglen newydd ar gyfer ensemble ac electroneg byw.
Mae tri chomisiwn cartref newydd yn eistedd wrth ochr tri gwaith rhyngwladol adnabyddus gan gyfansoddwyr blaengar. Maent i gyd yn defnyddio electroneg i lunio a llurgunio seiniau offerynnau traddodiadol. Wedi’u perfformio gan gerddorion gwych UPROAR mae hon yn noswaith o weithiau byrfyfyr ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn ffiiau cerddoriaeth glasurol a synnau electronig.