Gweithdy Cyfansoddi i bobl ifanc 14-18 oed gyda cherddorion o UPROAR
Cyfle i bobl ifanc ym mlynyddoedd 10-13 (14 - 18 oed) gyfansoddi dan arweiniad y cyfansoddwr proffesiynol a’r chwaraewr bas dwbl, Ashley John Long a 4 offerynnwr o ensemble UPROAR. Ashley yw un o’r cyfansoddwyr a gomisiynwyd ar gyfer ein taith wanwyn. Ef hefyd yw’r chwaraewr bas dwbl yn ensemble UPROAR ac mae’n ddarlithydd Cyfansoddi ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd y gweithdai yn werthfawr i unrhyw un sy’n hoffi creu ei gerddoriaeth ei hun a bydd yn helpu i ddatblygu eu sgiliau cyfansoddi. Mae’n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n astudio tuag at eu TGAU, BTEC neu Lefel A mewn cerddoriaeth. Bydd pob gweithdy yn dod i ben gyda pherfformiad i deulu a ffrindiau ac fe fydd yn cael ei recordio.
Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn treulio diwrnod dwys yn dysgu technegau, yn cael syniadau ac yn rhoi cynnig ar bethau newydd gyda cherddorion proffesiynol UPROAR. Byddant hefyd yn cael deall rhagor am y gerddoriaeth fydd yn cael ei pherfformio yn ein cyngerdd 'Conserto Siambr Ligeti a Cherddoriaeth Newydd o Gymru'
Dydd Llun 24 Chwefror, 10am-4pm
Hafren, Newtown
Swyddfa Docynnau 01686 948100 ebost boxoffice@thehafren.co.uk