‘Skull’ Rebecca Saunders a Cherddoriaeth Newydd o Gymru

Gyda
Darnau rhyngwladol
Rebecca Saunders - Skull
Cyfansoddwyr
Delyth Fields
Daniel Soley
Claire Victoria Roberts
Mae taith UPROAR yn 2027 yn cyfuno rhaglen fywiog o waith newydd gan y gyfansoddwraig amlwg o Brydain, Rebecca Saunders, ochr yn ochr â thri llais newydd i gerddoriaeth glasurol o Gymru.
Mae ensemble deinamig UPROAR o 15 cerddor yn cyfuno cerddoriaeth acwstig, fideo a synau electronig byw mewn cyweithiau amlgyfrwng, gan wthio terfynau’r ffurfiau celfyddydol hyn.
Mae Claire Victoria Roberts, Daniel Soley a Delyth Field yn creu gweithiau amlgyfrwng deinamig newydd sy’n cyfuno cerddoriaeth fyw, delweddau a synau electronig.
Disgwyliwch olygfa fyw yn llawn lliw, gwead a symud, ar draws sain a’r gweledol, sy’n eich arwain ar daith galeidoscopig trwy’r tymhorau yn fersiwn ddatblygedig Daniel Soley o’r prosiect clyweledol, Tymhorau.
Mae ‘Simulacrum’ Delyth Field yn fynegiant o glirio’r ymwybyddiaeth - ymgais i sefydlogi’r hunan, yng nghanol sianeli di-drefn cyfryngau ffug, a’r arwynebol.
Mae cerddoriaeth Claire Victoria Roberts wedi ei thrwytho mewn rhythmau tebyg i ddawns, wedi ei hysbrydoli gan dirwedd a hanesion ei chartref ar yr arfordir ger aber y Tywi yn Glanyfferi ger Llanelli
Rebecca Saunders yw un o brif gyfansoddwyr rhyngwladol ei chenhedlaeth. Mae ‘Skull’ yn rhan o drioleg o ddarnau cywrain, nad ydynt yn cael eu perfformio yn aml yn y Deyrnas Unedig.
Taith:
Gŵyl Gerdd Bangor
Pontio, Bangor
20 Chwefror 2027
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
25 Chwefror 7.30pm 2027
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru,
Caerdydd
26 Chwefror 2027, 7.30pm
SOAR Theatre
Merthyr Tudfil
20 Mawrth 2027, 7.30pm
Cyfansoddwyr
New Paragraph
Ensemble
Basŵn - Stanley Kaye-Smith
Clarinét - Heather Roche
Clarinét - Michelle Hromin
Horn - TBC
Sacsoffon - TBC
Trwmped - Torbjörn Hultmark
Trombôn - TBC
Offerynnau Taro - Julian Warburton
Offerynnau Taro - James Harrison
Piano - Clíodna Shanahan
Gitâr Trydan - James Woodrow
Feiolín - Miranda Fulleylove
Feiolín - Philippa Mo
Cello - TBC
Bas Dwbl - Ashley John Long
Arweinydd Michael Rafferty
Sain/Fideo Eugene Capper
Gweinyddwr Ruth Haugen
Marchnata Rheolwr - Suzanne Carter
Wasg - Penny James
Diolch yn fawr




